TITLE – LA MUERTE DEL AMOR EN ANDALUCIA
ARTIST – SPANISH DANCE TROUPE
FORMAT - DIGIPAK CD / DOWNLOAD
CAT NO - ANKST 134
REL DATE – 10/06/2013
SPANISH DANCE TROUPE is the musical blanket that envelops the bruised songwriting heart of singer songwriter RICARD.
Ricard is a musician of South American and Japanese descent who came to ANKST’s attention when he washed up on his travels in Swansea Bay clutching a suite of songs steeped in heartache and written in the universal language of anti-love.
The album LA MUERTE DEL AMOR EN ANDALUCIA is the finished result of these songs being fashioned by Ricard into a thematic recording that gives us a cycle of bitter sweet musical gems that recount the memory of an ill fated love affair played out in the South of Spain. Ricard’s exotic background and musically open nature can be heard all through the album as many styles are mixed and presented alternately in melancholic snatches that recall 60’s art films next to casio style bossa pop !
Simplicity and authenticity of feeling and performance are the bedrock of this beautiful ‘concept’ album and ANKST are delighted to be able to offer to the world an album that delivers a beautiful and heartfelt one-off musical vision that comes from a different place but one we believe will find a welcome everywhere it is played and heard.
One to treasure and love we think.
SPANISH DANCE TROUPE yw’r enw ar brosiect cerddorol sy’n gweithio fel blanced cerddorol sy’n amddiffyn calon bregus y canwr a cyfansoddwr pop RICARD.
Mae RICARD yn gerddor o dras Siapanaeg sy’n hannu o Dde America,(Brasil i fod yn fanwl gywir), unigolyn arbennig a ddaeth i sylw Ankst pan gyrraeddodd ym Mae Abertawe efo dim yn ei feddiant heblaw am casgliad o ganeuon melodic dros ben am berthynas a aeth ar chwal, caneuon trist a hyfryd a oedd bron yn ddatganiadau wrth-gariad.
LA MUERTE DEL AMOR EN ANDALUCIA yw’r albym gorffenedig mae Ricard wedi creu ar gyfer y label. Casgliad thematig sy’n olrhain y berthynas melys-chwerw a ddaeth i ben yn Ne Sbaen. Mae cefndir egsotic a amrywiaeth chwaeth cerddorol Ricard yn meddwl fod yr albym yn gasgliad seicadelig a ffres a campus dros ben efo melodiau amhosib i’w anghofio a synnau sy’n atgoffa ti o ffilmie arti o’r chwedegau neu cerddoriaeth pop amrwd o ochr arall y byd.
Symlrwydd a gonestrwydd y profiadau tu ol i’r caneuon yw asgwrn cefn y record yma a mae Ankst wrth ei bodd fod y label yn medru cynnig ‘one-off’ prydferth sydd wedi ymddangos , yn llythrenol, o rywle arall, gwahanol newydd. Credwn y bydd y gynulleidfa yn cynhesu tuag at, ac yn cynnig croeso i, ddoniau a synnau yr artist unigryw yma.
Mae Ricard yn byw bywyd eitha dirgel ac yn gwario llawer o’i amser yn teithio’r byd ond mi fydd o’n ymddangos yma a thraw i chwara ei ganeuon ……felly gwyliwch allan amdano.
|