****DISPATCH 7.06.2014 POSTIO ALLAN ****
TEITL – ERBYN HYN ARTIST – DATBLYGU
FFORMAT – MINI-ALBUM AR CD / DIGIDOL
RHIF CATALOG - ANKST 136
DYDDIAD RHYDDHAU – MAI 26ain ( DIGIDOL) / MEHEFIN 7fed (CD)
Nol yn 2012 yn nghanol dathliadau trideg mlynedd ers ffurfio Datblygu ail-ymddangosodd Pat Morgan a David R.Edwards yn nghanol y sin gerddorol er mwyn rhyddhau record saith modfedd a oedd yn cynnwys pedair trac gwbl newydd – ‘Darluniau Ogof o’r Unfed Ganrif ar Hugain’(ankst132). Gyda’r record arbennig yna bellach wedi gwerthu allan yn llwyr mae’r pennod nesa yn nhaith atgyfodiad y grwp gwefreiddiol yma ar droed ….
Er fod y gan ‘Bywoliaeth’ ar E.P. Darluniau Ogof wedi nodi mai ‘Potensial Cymru yw paradwys, so dwi’n aros adref ac yn gorffwys’ – tydi David na Pat ddim wedi bod yn gorffwys o gwbl yn y cyfamser. Llynedd trefnwyd ail gyflwyno holl ganeuon cynnar y grwp i ymateb ffafriol dros ben ar y casgliad dwbl ddisg - Datblygu:Y Tapiau cynnar/The Early Tapes (ankst135), ynghyd a’r ddau yn cefnogi a mynychu mwy o ‘screenings’ o’r ffilm ‘Prosiect Datblygu’ gan Owain Llyr . Yn wir t’oedd dim hawl gan ddilynwyr y grwp i ddisgwyl cynnyrch newydd mor fuan ond braint mawr gan Ankstmusik yw cyhoeddi fod casgliad gwbl newydd o gerddoriaeth gan Datblygu ar fin ymddangos. Penderfynodd Pat a David yn gynnar yn 2014 i ymgynull a theithio lawr i stiwdios yr anfarwol Llwybr Llaethog( John Griffiths a Kevs Ford )yn Nghaerdydd i gynnal sesiwn recordio undydd er mwyn creu yr ‘mini-lp’ wyth trac - ‘ERBYN HYN’.
Unwaith eto dyma Datblygu yn cynnig casgliad o ganeuon unigryw, hanfodol sy’n brathu gymaint ag erioed. Mae’r llais yn gryf a’r cerddoriaeth syml, rhydd a pigog yn asio i’r dim gyda caneuon fel ‘Cerdd(o’r)iaith’, ‘Bydolwg’ a ‘Achos’ sy’n carlamu yn ddi-seremoni dros dirwedd themau sy’n hen gyfarwydd i ddilynwyr y bardd cenedlaethol David R. Edwards. Mae’r casgliad yma yn cyffwrdd ar chwant a diffyg chwant, cariad, tyfu’n hen, rhyddid personol a pwyse byw yng nghanol uffern y diwydiant amaethyddiaeth, addysg a phop yma yn Nghymru! Gyda lyrics trawiadol fel ‘sa’i am fod yn dyst i esgyrn yn canu emynau am fywyd tragwyddol’(can(o’r)iaith); ‘gyd chi angen yw dawn i anadlu’ (pawb); ‘gorffenodd fy mabanod lan yn ngegau benywaidd neu yn fy llaw dde mewn rhwysdredigaeth’ ( dim achos) - mae hi’n gwbl glir fod ysbryd herfeiddiol cerddoriaeth amgen Cymraeg yn fyw ac yn iach a’n gwbl saff yn nwylo y ddau athrylith yma …i’w barhau……
Mi fydd diwrnod lawnsio CD ‘Erbyn Hyn’ yn digwydd draw yn Siop Recordiau Tangled Parrot, Caerfyrddin ar ddydd Sadwrn Mehefin y 7fed gyda Pat Morgan a David R.Edwards. Hefyd mi fydd David yn un o westai arbennig y DJ Radio1 Huw Stephens draw yn Ngwyl Llenyddol Dinefwr ar yr 20fed o Fehefin lle fydd e’n darllen a trafod lyrics unigryw caneuon Datblygu dros y blynyddoedd.
1.ACHOS. 2.DIM ACHOS. 3. CAN WERIN. 4.PWYNT. 5.CERDD(O’R)IAITH. 6.BYDOLWG. 7.PAWB. 8.TEIMLAD2.
PATRICIA M. MORGAN :Llais /Offerynnau
DAVID R.EDWARDS : Llais /Offerynnau
TITLE – ERBYN HYN ARTIST – DATBLYGU
FORMAT – CD MINI-ALBUM / DIGITAL DL
CATALOGUE NUMBER - ANKST 136
REL.DATE – MAY 26th ( DL) / JUNE 7th (CD)
Back in 2012 in the middle of celebrating three decades since Datblygu were formed Pat Morgan and David R.Edwards re-appeared in the middle of the music scene to drop a brand new four track vinyl only e.p.– ‘Darluniau Ogof o’r Unfed Ganrif ar Hugain’(ankst132) on an unsuspecting audience. With this earlier release fully sold out the next chapter in this legendary band’s musical re-emergence is already underway……
Even though the duo promised on the track ‘Lifestyle’ from the ‘Ogof E.P.’ that they would stay at home and relax as they waited for Wales to morph into paradise Pat and David have not spent the intervening months idle at all. Last year they were instrumental in re-releasing the band’s early catalogue of songs on the highly praised double disk compilation Datblygu:Y Tapiau cynnar/The Early Tapes (ankst135), as well as supporting more screenings of the ‘Prosiect Datblygu’ film by Owain Llyr.
We had no right to expect new material so soon from Datblygu so it is with great joy that Ankstmusik Records can announce that a new mini-lp of Datblygu material is about to appear on the label. David and Patricia decided in early 2014 to reconvene and travel down to the Cardiff studios of legendary contemporaries Llwybr Llaethog ( John Griffiths and Kevs Ford ) to set up a one day recording session that would bring into existence the songs that would constitute ‘ERBYN HYN’( ‘BY NOW’)
Once again Datblygu offer a collection of unique songs that startle and unsettle as much as ever. The voice is strong and the simple music is free, playful and spiky providing a natural fit for the words that bite deep in songs such as ‘Dim Achos’, ‘Cerdd(o’r)iaith’ and ‘Can Werin’. The thematic concerns of these new songs will be familiar to long term followers of the poetry of David R.Edwards as love, sex, agriculture, education, incarceration, freedom and sanity reappear in David’s most recent work. The fate of alternative, confrontational and challenging music from Wales is in safe hands once again ….. the story will continue………
There will be a CD launch event held at the Tangled Parrot Record Shop, Carmarthern with David R.Edwards and Pat Morgan in attendance on June the 7th and David will be appearing at the Dinefwr literature festival as one of Radio 1 DJ Huw Stephens’ guests as he discusses and reads a selection of his Datblygu lyrics.
1.ACHOS. (affair) 2.DIM ACHOS (no affair). 3. CAN WERIN. (folksong) 4.PWYNT.(point) 5.CERDD(O’R)IAITH.(poem for the language) 6.BYDOLWG.(worldview) 7.PAWB.(everyone) 8.TEIMLAD2. (feeling2)
PATRICIA M. MORGAN :Llais /Offerynnau
DAVID R.EDWARDS : Llais /Offerynnau
|